Mae AtkinsRéalis yn sefydliad dylunio, peirianneg a rheoli prosiect sy’n arwain y byd. Mae AtkinsRéalis yn cefnogi Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gyflawni gwelliannau teithio llesol rhwng Gwersyllt a Wrecsam.
Rydym yn falch o'n hamgylchedd gwaith cynhwysol, amrywiol ac egnïol ac yn rhannu diwylliant agored sy'n seiliedig ar ein gwerthoedd: diogelwch, uniondeb, arloesedd, cydweithio a rhagoriaeth.
Fel rhan o’r prosiect hwn, byddwn yn cydweithio â’r Cyngor a Thrafnidiaeth Cymru, ond hefyd yn prosesu eich adborth i helpu i lywio ac addasu cynlluniau’r llwybrau teithio llesol. Bydd AtkinsRéalis hefyd yn paratoi'r deunyddiau ategol i'r Cyngor sicrhau cyllid pellach ar gyfer datblygu cynigion.